Diweddarwyd diwethaf 21/07/2025
Mae’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR) (https://www.ccsr-wales.net) yn wasanaeth sy’n cefnogi’r broses o ddod o hyd i leoliadau gofal priodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn gydweithrediad cyfunol llwyddiannus dan arweiniad Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (4Cs), sy’n darparu am anghenion cynghorau lleol a darparwyr gofal annibynnol.

Mae’r platfform sy’n cefnogi’r gwasanaeth wedi’i ddatblygu a’i reoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Yn ei ganol mae cronfa ddata amser-real sy’n gadael i ddefnyddwyr baru plant â darpariaeth ar sail proffil o’u gofynion.
Mae CCSR yn offeryn mynediad cyfyngedig, a gyfyngir i’r defnyddwyr dilynol (“chi”):
Bydd gan gyflogeion penodol tîm Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (4Cs) a thîm CCSR yn CLlLC fynediad i wasanaeth CCSR er mwyn gweinyddu, rheoli a chynnal y gwasanaeth.
Amlinellir y telerau i chi ddefnyddio gwasanaeth CCSR yn y telerau defnydd hyn a’r dogfennau maent yn cyfeirio atynt.
Cyn dechrau defnyddio CCSR, darllenwch y telerau defnydd hyn yn ofalus, gan y byddant yn llywodraethu sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth. Rydym yn eich cynghori i argraffu neu i gadw copi o hyn, i gyfeirio ato yn y dyfodol. Trwy ddefnyddio CCSR, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn cytuno i’r telerau defnydd hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio gwasanaeth CCSR.
Gallem ddiwygio’r telerau ar unrhyw adeg drwy addasu’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd a chymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, am eu bod yn rhwym arnoch.
Caiff tanysgrifiadau awdurdodau lleol i’r gwasanaeth eu rheoli gan y 4Cs. Mae ffioedd darparwyr yn amrywio yn dibynnu a yw’r darparwr yn rhan o’r Fframwaith Cymru gyfan a weithredir gan y 4Cs.
Mae darparwyr nad ydynt yn rhan o’r fframwaith yn destun cost danysgrifio safonol o £500 (a TAW) y flwyddyn. Mae costau darparwyr fframwaith yn uwch ac yn gymesur yn ôl maint y darparwr.
Er mwyn cynnal cydlyniad a chysondeb â chyrff rheoleiddio; mae cyfrifon darparwr CCSR yn adlewyrchu'r darparwr cofrestredig a nodwyd yn nhystysgrifau cofrestru lleoliadau / gwasanaethau a reoleiddir. Mae angen cyfrif CCSR ar gyfer pob darparwr cofrestredig.
Bydd pob darparwr sy’n defnyddio CCSR yn dod o dan yr un mecanwaith tanysgrifio. Mae CLlLC yn darparu gwasanaethau cyllid i’r prosiect a bydd yn anfonebu cysylltiadau cyllid enwebedig am ffioedd tanysgrifio blynyddol yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarperir adeg cofrestru.
Codir hanner y gost danysgrifio flynyddol i ddarparwyr newydd sy’n ymuno ar ôl 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn benodol ar gyfer y flwyddyn honno. Mewn blynyddoedd dilynol codir y tanysgrifiad blynyddol llawn arnynt.

Er mwyn canslo’ch tanysgrifiad dylech gysylltu â Desg Gymorth CCSR i drafod y broses ganslo raddedig.
Ni chynigir unrhyw ad-daliadau tanysgrifio ni waeth pryd byddwch yn canslo.
Mae Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (CCSR) yn mynnu bod defnyddwyr yn cofrestru er mwyn defnyddio’r adnodd. Adeg cofrestru, gofynnwn am wybodaeth bersonol gennych, i’n galluogi i greu proffil defnyddiwr.
Caiff yr wybodaeth a rowch ei defnyddio i greu a rheoli’r cyfrif. Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn orfodol - fel eich enw, cyfeiriad e-bost dilys, llinell 1af eich cyfeiriad, cod post a rhif ffôn. Nid yw cofrestiadau di-enw yn cael eu derbyn.
Mae 4Cs a CLlLC fel ei gilydd yn gallu cofrestru defnyddwyr newydd i wasanaeth CCSR. Er mwyn casglu’r wybodaeth mae ei hangen i greu’ch cyfrif defnyddiwr, mae’n bosibl y gofynnir i chi lenwi ffurflen fer. Ar ôl i’r wybodaeth gysylltu hon gael eu hychwanegu at CCSR i greu’ch cyfrif defnyddiwr, caiff ei dileu.
Gall darparwyr ofyn am gyfrifon defnyddiwr lluosog am bob darparwr sy’n cofrestru ar CCSR.
Wrth gofrestru fel darparwr newydd ar CCSR, bydd angen i chi lenwi ffurflen ar-lein: https://www.smartsurvey.co.uk/s/CCSRreg/
Wrth gofrestru, gofynnir i chi roi prif gysylltiad a manylion i sefydlu defnyddiwr i gyrchu system CCSR. Cewch wneud cais i unigolion pellach gael mynediad defnyddiwr i CCSR trwy gysylltu â Desg Gymorth CCSR.
Fel rhan o’r broses gofrestru, gofynnir i ddarparwyr gofal roi gwybodaeth hefyd am eu tystysgrif gofrestru. Mae CLlLC yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddilysu darpariaeth yn erbyn gwybodaeth gyfeirio a ddarperir gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Ofsted. Bydd enw cyfrif darparwr CCSR yn adlewyrchu enw’r cwmni a restrir fel y darparwr cofrestredig yn y dystysgrif gofrestru.
Disgwyliwn i chi arfer moesau da ac ystyriaeth wrth ddefnyddio CCSR.
Chi yn unig sy’n gyfrifol am yr holl gynnwys a gyhoeddwch ar CCSR. Nid yw 4Cs na CLlLC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau a wynebir trwy ddefnyddio’r gwasanaeth, nac am unrhyw gynnwys a ychwanegir gan ei ddefnyddwyr.
Chi sy’n gyfrifol am unrhyw gynnwys a ddefnyddiwch, a rannwch, neu a gyhoeddwch wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. O ganlyniad, rhaid i chi gadarnhau bod gennych ganiatâd cyfreithiol i arddangos y cynnwys rydych yn ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r gwasanaeth a bod gennych y trwyddedau, caniatâd, a chydsyniadau angenrheidiol.
Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am drefniadau a wneir rhwng defnyddwyr ac ni allwn weithredu’n gyfryngwr. Nid ydym yn fetio neu’n asesu uniondeb y defnyddwyr. Os byddwch yn cydweithredu â defnyddwyr, rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hun.
Bydd dull mewngofnodi defnyddiwr a chyfrinair a gynhyrchir ar hap yn cael eu rhoi i chi pan gofrestrwch. Rhaid i chi drin y gyfryw wybodaeth yn gwbl gyfrinachol. Rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.
Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw ddefnyddiwr ar unrhyw adeg os ydych, yn ein barn resymol ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o ddarpariaethau’r telerau defnydd hyn.
Sylwn ein bod yn cadw’r hawl i amserlennu cyfnodau all-lein i’r gwasanaeth at ddiben cynnal, atgyweirio neu wella’r gwasanaeth, a wneir yn ddelfrydol tu allan i oriau busnes.
Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw ein gwasanaeth ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod o amser.

Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn wrthych chi. Rydym yn defnyddio technolegau a meddalwedd amgryptio o’r radd flaenaf i warchod eich data, a glynwn wrth safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad anawdurdodedig iddo.
Defnyddiwn is-broseswyr, Aspire Systems i letya, cynnal a storio data CCSR yn ddiogel ar blatfform Microsoft yn y cwmwl. Mae’r holl ddata yn cael ei storio yn y DU.
Bydd 4Cs a CLlLC bob amser yn cydymffurfio â’r Cyfreithiau Diogelu Data. Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn diogelu’r data personol data a gasglwn gennych chi, gweler y Polisi preifatrwydd.
4Cs yw’r rheolydd data am unrhyw ddata personol y gofynnir i chi ei roi wrth i chi gofrestru gyda system CCSR. Rydym yn annog mewnbynnu gwybodaeth gywir ac amserol.
CLlLC yw’r prosesydd data, wedi’i phenodi gan 4Cs, am yr holl ddata rydych yn ei roi neu’n ei lanlwytho i wasanaeth CCSR. Nid oes gan CLlLC unrhyw fandad i adolygu ansawdd, cywirdeb na chynnwys gwybodaeth gyd-destunol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal neu ofalwr.
Aspire Systems yn is-brosesydd, wedi’u penodi i letya, cynnal a storio data CCSR yn ddiogel. Fel y cyfryw, maent yn gweithredu o fewn y telerau a bennir gan 4Cs. Mae’r holl ddata yn cael ei storio yn y DU.
Mae’n bosibl y bydd eich enw defnyddiwr penodedig a’ch enw gwirioneddol yn weladwy i ddefnyddwyr eraill mewn rhai adrannau o wasanaeth CCSR. Mae’r holl fanylion eraill yn gwbl gyfrinachol, ac nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.
Byddwn, ar bob adeg, yn cyfyngu mynediad i’ch data personol i gyflogeion sydd wedi llofnodi cytundebau cyfrinachedd priodol.
Byddwn, ar bob adeg, yn cynnal mesurau ffisegol a sefydliadol priodol i ddiogelu data personol sy’n perthyn i chi a / neu a rennir gennych chi ac yn sicrhau ei fod yn ddiogel. Defnyddiwn dechnolegau blaengar a meddalwedd amgryptio i ddiogelu’ch data a chynnal safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad di-awdurdod iddo.
Lle bo’n briodol, caiff gwybodaeth ei storio dim ond am y cyfnod mae ei hangen neu sy’n ofynnol drwy statud a chaiff ei gwaredu’n briodol. Protocol CCSR yw i beidio â dileu cofnodion, gan fod cynnal llwybr archwilio data sy’n dogfennu’r camau a gymerir i nodi lleoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn bwysig a gall awdurdodau lleol eu defnyddio o dan nifer o amgylchiadau. Serch hynny, lle bo angen, byddwn yn anonymeiddio’ch proffil defnyddiwr os cawn gais.

Mae’n bosibl y rhannwn ddata cyfanredol a di-enw o CCSR gydag asiantaethau fel awdurdodau lleol, a sefydliadau annibynnol / gwirfoddol sy’n cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Does dim byd yn yr amodau hyn sy’n pennu terfynau ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anafiadau o ganlyniad i esgeulustod, twyll, cynrychioli twyllodrus neu unrhyw atebolrwydd arall nad oes modd cyfyngu arno neu ei wadu yng nghyfraith Cymru a Lloegr.
I’r graddau sy’n bosibl yn ôl y gyfraith, dyma eithrio pob amod, gwarant a chynrychioli (neu unrhyw delerau eraill) – boed trwy fynegi neu awgrymu – allai fod yn berthnasol i’n gwefan a’r hyn sydd arni.
Fyddwn ni ddim yn atebol i’r un defnyddiwr am unrhyw golled neu niwed boed trwy gytundeb, methu â chyflawni dyletswydd statudol, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu unrhyw fodd arall – hyd yn oed pe gallen ni fod wedi rhagweld hynny – ynglŷn â’r canlynol:
Os ydych chi’n ddefnyddiwr masnachol, dylech chi nodi na allwn ni dderbyn cyfrifoldeb am:
Fyddwn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed o achos firws, ymosodiad ar sustemau i’w rhwystro rhag rhoi gwasanaethau ar gael nac unrhyw fath arall o ddeunydd technegol niweidiol a allai effeithio ar eich cyfrifiadur, ei gyfarpar, ei raglenni, ei ddata neu unrhyw ddeunydd arall rydych chi’n berchen arno o ganlyniad ichi ddefnyddio ein gwasanaeth, llwytho peth o’i chynnwys i lawr neu gyrchu unrhyw wefan arall sydd wedi’i chysylltu â hi.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan. Dim ond er gwybodaeth ichi y bydd dolenni o’r fath yno. Felly, ddylech chi ddim tybio ein bod wedi cymeradwyo cynnwys y gwefannau hynny. Fyddwn ni ddim yn atebol am unrhyw golled neu niwed o ganlyniad ichi ddefnyddio gwefannau ac adnoddau o’r fath am nad ydyn nhw o dan ein rheolaeth.

CLlLC yw perchennog neu drwyddedai holl hawliau eiddo deallusol y platfform technegol sy’n sail i wasanaeth CCSR. Mae cyfreithiau hawlfraint a chytuniadau ledled y byd yn amddiffyn y gweithiau hyn. Cedwir pob hawl o’r fath.
Chewch chi ddim newid mewn unrhyw ffordd gopïau papur neu ddigidol unrhyw ddeunydd rydych chi wedi’i argraffu neu ei lwytho i lawr. Chewch chi ddim cymryd unrhyw luniau, fideos neu dapiau sain a’u defnyddio ar wahân heb y testun gwreiddiol, chwaith.
Rhaid cydnabod bob amser ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr anhysbys) fel awduron cynnwys yn ein gwasanaeth. Chewch chi ddim defnyddio unrhyw ran o gynnwys ein gwefan i ddibenion masnachol heb drwydded gennyn ni neu gan ein trwyddedwyr.
Rhaid i statws CLlLC (a statws unrhyw gyfranwyr a enwir) fel awduron y platfform technegol bob amser gael ei gydnabod. Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r cynnwys sydd ar ein safle at ddibenion masnachol heb sicrhau trwydded i wneud hynny naill ai gan ein trwyddedwyr neu gan CLlLC.
Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’r gwasanaeth yn groes i’r telerau defnydd hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’n gwefan yn dod i ben ar unwaith ac mae’n rhaid i chi ddychwelyd neu ddifa unrhyw gopïau o’r deunyddiau rydych wedi’u gwneud.
Allwn ni ddim gwarantu y bydd ein gwasanaeth yn ddiogel ac yn rhydd rhag firysau neu heintiau eraill. Chi sy’n gyfrifol am drefnu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a sustemau i gyrchu ein gwasanaeth. Dylech chi ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i’ch diogelu rhag firysau.
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’n safle trwy gyflwyno’n fwriadol feirysau, ‘trojans’, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall, sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwasanaeth, y bensaernïaeth mae ein gwasanaeth yn cael ei storio arni nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwasanaeth.
Peidiwch ag ymosod ar ein gwasanaeth trwy amharu ar ei gallu i roi gwasanaethau ar gael. O weithredu yn groes i’r gofyn hwn, fe fyddech chi’n cyflawni trosedd yn ôl Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn ni’n rhoi gwybod am unrhyw droseddu o’r fath i’r awdurdodau gorfodi perthnasol ac yn cydweithredu â nhw trwy ddatgelu pwy ydych chi. Pe baech chi’n cyflawni trosedd o’r fath, deuai eich hawl i ddefnyddio ein gwasanaeth i ben yn syth.

Cyfraith Lloegr sy’n berthnasol i’r amodau hyn, y pynciau sydd wedi’u trafod ynddyn nhw a modd eu llunio. Rydych chi’n cytuno â ni mai llysoedd Cymru a Lloegr fydd yn barnu ar unrhyw faterion perthnasol. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, fodd bynnag, cewch chi fynd i’r gyfraith yno. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, cewch chi fynd i’r gyfraith yn y wlad honno, hefyd.
Petai llys cymwys sy’n meddu ar yr awdurdodaeth gywir o’r farn nad oes modd gorfodi unrhyw gymal neu is-gymal yn y Telerau ac Amodau hyn, caiff y cymal neu’r is-gymal hwnnw ei dorri ac ni fydd hyn yn effeithio ar weddill y cytundeb, gan gynnwys unrhyw gymalau neu is-gymalau eraill.
I gysylltu â ni, anfonwch neges at: enquiries@ccsr-wales.net
Diolch am ddefnyddio’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR).